WYTHNOS I FYND I WNEUD CAIS AM DOCYN AM DDIM

Dim ond wythnos sydd ar ôl i wneud cais am docyn am ddim i Faes Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd ddydd Sul 1 Awst eleni. Ni fydd modd gwneud cais am docyn am ddim ar ôl dydd Mercher 30 Mehefin.
Mae’r ymgyrch a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn llwyddiant mawr, ac mae trefnwyr y Brifwyl eisoes wedi derbyn ceisiadau am dros 19,000 o docynnau ar gyfer y dydd Sul, sy’n sicr o fod yn ddiwrnod allan arbennig i’r teulu.
Am yr wythnosau cyntaf rhoddwyd blaenoriaeth i bobl leol, ond erbyn hyn, mae croeso i unrhyw un o bob rhan o Gymru wneud cais am docyn rhad ac am ddim. Bwriad yr ymgyrch oedd denu cynulleidfa newydd i’r Brifwyl, yn enwedig mewn ardal sydd heb groesawu’r Eisteddfod am flynyddoedd lawer. Y gobaith oedd y byddai’r cynllun yn apelio at deuluoedd o fewn awr o daith i’r Maes, gan roi blas iddyn nhw o fwrlwm a hwyl yr Eisteddfod.
Hyd yn hyn, mae 84% o’r ceisiadau am docynnau wedi dod o ardal Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd, a 44% o’r ceisiadau wedi dod gan y rheini rhwng 25 a 44 oed. Mae 69% o’r rheini sydd wedi gwneud cais am docyn yn bwriadu ymweld â’r Eisteddfod am y tro cyntaf eleni.
Meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod:
“Ein bwriad oedd apelio at deuluoedd yn lleol, ac mae’r ymgyrch hon wedi bod yn llwyddiant ysgubol dros y misoedd diwethaf. Mae’n rhaid tynnu llinell yn rhywle, ac ar ôl trafod gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Cynulliad Cymru, penderfynwyd dod â’r cynllun i ben ar 30 Mehefin.
“Dros y mis diwethaf rydym wedi gweld rhagor o bobl o wahanol rannau o Gymru’n gwneud cais am docynnau ar gyfer y dydd Sul, ac felly rydym yn annog Eisteddfodwyr ym mhob cwr o Gymru i gysylltu dros y dyddiau nesaf os ydych am gymryd mantais o’r cynnig i ddod i Faes yr Eisteddfod yn rhad ac am ddim ddydd Sul 1 Awst. Bydd croeso i unrhyw un sydd heb wneud cais am docyn erbyn y dyddiad cau i ddod i’r Maes ar y diwrnod, ond bydd rhaid talu am fynediad i’r Maes heb docyn arbennig mynediad am ddim.”
Bydd angen gwneud cais am docyn drwy’r cynllun hwn i fynychu’r Oedfa fore Sul yn y Pafiliwn, ac ni fydd tocyn mynediad am ddim yn eich galluogi i fynychu’r Gymanfa Ganu nos Sul, gan fod angen tocyn arbennig ar gyfer y digwyddiad hwn.
Mynd i’r wefan a dilyn y ddolen Mynediad am Ddim o’r dudalen flaen yw’r ffordd fwyaf hawdd i wneud cais am docyn, ac mae modd hefyd wneud cais trwy ffonio 08454 090 300 neu 08454 090 400. Bydd y tocynnau’n cael eu hanfon allan cyn canol Gorffennaf.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn Y Gweithfeydd, Glyn Ebwy o 31 Gorffennaf – 7 Awst. Mae’r Maes yn gyfleus ar gyfer ymwelwyr o bob rhan o Gymru, gyda chysylltiad hawdd gyda phriffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus. Yn ddeugain munud o ganol Caerdydd, mae Glyn Ebwy yn awr o daith o Abertawe, ac yn ddwy awr a chwarter o ardal Dolgellau.
Mae’r Ŵyl yn denu tua 160,000 o ymwelwyr yn flynyddol, ac fe’i chynhelir yn y gogledd a’r de bob yn ail blwyddyn. Ceir mynediad am ddim i holl weithgareddau’r Brifwyl am bris tocyn Maes dyddiol.
Mae’r Eisteddfod yn derbyn grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Yn ogystal, mae’r Eisteddfod yn derbyn arian gan awdurdodau unedol Cymru drwy bartneriaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Eleni, yn ogystal, derbyniodd yr Eisteddfod £300,000 gan Raglen Adfywio Blaenau’r Cymoedd i’n galluogi i ymweld ag ardal Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd.