Pwyllgor Apêl Pont-y-pŵl a Cwmbran

Annwyl gyfaill,
Ysgrifennaf gyda cais personol i chwi fynychu y cyfarfod cyntaf o Bwyllgor Apêl Pont-y-pŵl tuag at Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010.
Efallai eich bod yn ymwybodol fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod yn ôl i Lyn Ebwy yn ystod Awst 2010 am y tro cyntaf mewn dros 50 mlynedd. Mae targed uchelgeisiol o £300,000 wedi ei osod fel cronfa leol, ac mae pwyllgorau apêl yn cael eu sefydlu ar hyd a lled y dalgylch i godi arian.
I’r perwyl hyn, mae cyfarfod wedi ei drefnu i’w gynnal yn YSGOL GYMRAEG CWMBRAN, FFORDD HENLLYS, ST DIALS, CWMBRAN am 6.30pm ar
DDYDD MERCHER 03 Mawrth 2010
Diben y cyfarfod fydd mynd ati i sefydlu pwyllgor apêl leol a thrafod syniadau sut i godi arian.
Mawr hyderaf y gallaf ddibynnu ar eich cefnogaeth fel ein bod yn medru gwneud ein rhan i sicrhau Eisteddfod Genedlaethol lwyddiannus yma yn y cymoedd.
Gaf i ddiolch o flaen llaw am eich cydweithrediad gan obeithio eich gweld yn y cyfarfod.
Yn gywir iawn,
Helen Greenwood
(01495 350155)