RHEOLWR ANSAWDD
Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent
Cyflog: £36,384 y flwyddyn
Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent a leolir yng Ngholeg Gwent ar gampws Pont-y-pŵl yn un o’r chwe chanolfan Cymraeg i Oedolion yng Nghymru. Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent sy’n gyfrifol am arwain a chydlynu holl ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yn siroedd Blaenau Gwent, Casnewydd, Caerffili, Mynwy a Thorfaen.
Darperir ystod eang iawn o gyfleoedd dysgu i ddysgwyr o lefel Mynediad hyd at lefel Hyfedredd gan gynnwys cyrsiau yn y gymuned, yn y Gweithle ac i’r Teulu. Yn ogystal mae gan y Ganolfan raglen eang o weithgareddau dysgu anffurfiol.
Mae'r Ganolfan nawr am ddatblygu’r ddarpariaeth yn bellach ac ychwanegu i’r tîm presennol. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar brofiad o ddysgu Cymraeg i Oedolion yn ogystal â meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog, dangos y gallu i weithio fel rhan o dîm ac i drefnu a blaenoriaethu gwaith.
Bydd deilydd y swydd hon yn gyfrifol am reoli ac arwain swyddogaethau sicrhau ansawdd Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent.
Swydd lawn amser 37 awr yr wythnos yw’r swydd hon ac fe’i lleolir yn y Ganolfan ym Mhont-y-pŵl. Penodir yr ymgeisydd llwyddiannus ar gytundeb tymor sefydlog tan fis Gorffennaf 2011 yn y lle cyntaf.
Dyddiad cau: 12 Mawrth 2010
Am wybodaeth bellach a ffurflen gais, ffoniwch 01495 333333, neu I lawrlwthyo ffurflen gais: www.coleggwent.ac.uk