Menter Iaith

Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy

 

Hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau

Dewiswch

Gwefan Newydd Siop y Ganolfan 28/06/2010
WYTHNOS I FYND I WNEUD CAIS AM DOCYN AM DDIM 22/06/2010
CYFLWYNO CADAIR EISTEDDFOD 2010 I’R PWYLLGOR LLEOL 15/06/2010
HANNER CAN DIWRNOD I FYND CYN CYCHWYN EISTEDDFOD 2010 10/06/2010
Ail-lansiad Noson Mewn Tafarn 09/06/2010
Godi arian tuag at Ysgolion Gymraeg Rhyd y Grug a Santes Tudful a’r Ganolfan Gymraeg 07/06/2010
Gorsedd y Dreigiau 03/06/2010
SWYDDOG IAITH GYMRAEG 20/05/2010
Llyfrau Cymraeg yn casglu dwst? 18/05/2010
Hawl i Holi Radio Cymru 12/05/2010
10/05/2010
Swydd 23/04/2010
Cylchlythyr Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 13/04/2010
CYFLE I DDEWIS ARLWY YNG NGHYNGERDD YR EISTEDDFOD 13/04/2010
Menter Iaith Sir Caerffili - Ffiliffest 13/04/2010
CANOLFAN SIOPA FESTIVAL PARK I NODDI DYDD SUL YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 01/04/2010
Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan Cynllun Iaith Gymraeg 2010 - 2013 18/03/2010
11/03/2010
RHEOLWR ANSAWDD 03/03/2010
Cynorthwy-ydd Gweinyddol (Cymraeg) 03/03/2010
28/02/2010
Pwyllgor Apel Ardal Pontypwl 25/02/2010
ONLY MEN ALOUD I AGOR EISTEDDFOD 2010 17/02/2010
Pwyllgor Apêl Pont-y-pŵl a Cwmbran 08/02/2010
04/02/2010
Swydd 02/02/2010
CHWE MIS I FYND CYN CYCHWYN YR EISTEDDFOD 01/02/2010
FFURFLENNI LLOGI STONDINAU EISTEDDFOD 2010 AR GAEL ARLEIN 01/02/2010
YN EISIAU!! 01/02/2010
Eisiau cystadlu mewn rhaglen deledu newydd S4C?! 25/01/2010
22/01/2010
20/01/2010
Seren am Swper 11/01/2010
Swyddi Newydd yng Ngholeg Gwent 21/12/2009
Diwrnod Llwyddiannus ym Mhont-y-pŵl 01/12/2009
WYTHNOS YN UNIG AR ÔL I GYSTADLU AM Y FEDAL RYDDIAITH 25/11/2009
Diwrnod i'r Teulu 19/11/2009
Taith Bws Chwarae o gwmpas Torfaen 11/11/2009
Cwrs Penwythnos Coleg Gwent 11/11/2009
Swydd: Arweinydd Cylch Ti a Fi Can Newydd 09/11/2009
Merched y Wawr Glannau'r Clwyd 05/11/2009
Ysgol Undydd yr Orsaf Bwer 02/11/2009
Cyrsiau Dwys Coleg Gwent 13/10/2009
BINGO Dwyieithog 18/09/2009
Swydd: Swyddog Cymorth Gweinyddol (Cyngor Torfaen) 11/09/2009
Noson Mewn Tafarn 04/09/2009
Beth sy ymlaen yn Nhorfaen 20/08/2009
Taith i weld Cymru V Samoa 20/08/2009
Cwis Dwyieithog 17/08/2009
17/08/2009
Os oes gennych chi syniad busnes sy’n haeddu gweld golau dydd, ac os hoffech chi gael £5,000 a chyngor busnes proffesiynol i droi eich syniad yn realiti – dyma eich cyfle! 01/07/2009
e-weithdy cyfieithu 15/06/2009
Llwyddiant Dafydd Clwb Hoci Caerdydd & UWIC yn Ewrop 15/06/2009
Merched y Wawr Torfaen 27/05/2009
Pwyllgor Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy 26/05/2009
Beth Sy Ymlaen Yn Nhorfaen? 26/05/2009
Newyddion Gwent 26/05/2009
CWRS PENWYTHNOS - YR HILL 16/05/2009
Cwrs Diogelwch Teithiau ac Ymweliadau 13/05/2009
Dafydd yn cynrychioli Cymru yn Prague 13/05/2009
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn dod i Fae Caerdydd 25 - 30 Mai 2009 12/05/2009
Noson Ieithoedd Rhyngwladol 08/05/2009
Grŵp Ffocws Cymraeg i Oedolion Torfaen 05/05/2009
Merched y Wawr / Clwb Gwawr Torfaen 24/04/2009
Beth Sy Ymlaen Beth Sy Ymlaen Yn Nhorfaen? 23/04/2009
Cyfarfod Cyhoeddus Newyddion Gwent 21/04/2009
Noson yng Nghwmni Frank Olding 21/04/2009
Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 20/04/2009
Awr Gymraeg ar BRfm yn trafod Eisteddfodau 17/04/2009
YN EISIAU!! 25/03/2009
Newyddion Gwent" Cyfarfod agored – 11eg o Fawrth 2009 02/03/2009
Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn y Gweithfeydd, Glyn Ebwy Gorffennaf 31 – 7 Awst 2010 02/03/2009
‘CWTSH CYMREIG’ 'CWTSH CYMREIG' - FFORDD YMARFEROL I WELLA EICH CYMRAEG 02/03/2009
SWYDD NEWYDD!! Swyddog Teuluoedd, Plant a Phobl Ifainc 02/03/2009
PSSSST!! Gair yn eich clust 02/03/2009
Diwrnod i’r Teulu Dydd Sadwrn 28ain o Chwefror 2008 25/02/2009
Noson o Gerddoriaeth gyda Côr Lleisiau’r Llan 25/02/2009
Pwyllgorau Apel Eisteddfod 2010 25/02/2009
Diwrnod i'r Teulu 26/01/2009
Cwis 13/01/2009
Cystadleuaeth Logo 13/01/2009
Sioe Nadolig Cyw 2008 03/12/2008
Swyddi 06/11/2008
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 31/10/2008
BYDDWCH YN DDIOGEL NOSON TAN GWYLLT ELENI 08/10/2008
GYFARFOD CYHOEDDUS 08/10/2008
DIOLCH YN FAWR IAWN 27/08/2008
Clwb Gwawr Y Fenni 27/08/2008
GWYL CERDD DANT CASNEWYDD A'R CYLCH 2009 26/08/2008
Diwrnod i'r Teulu 13/08/2008
Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent 20/06/2008
MERCHED Y WAWR 20/06/2008
Noson yng nghwmni Heather Jones 28/04/2008
Newyddion Gwent 17/04/2008
Seremoni Lansio'r Fenter 23/10/2007
Menter Iaith Newydd 23/08/2007

CYFLWYNO CADAIR EISTEDDFOD 2010 I’R PWYLLGOR LLEOL

CYFLWYNO CADAIR EISTEDDFOD 2010 I’R PWYLLGOR LLEOL
Heno (15 Mehefin 2010), cyflwynwyd Cadair Eisteddfod Genedlaeth Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd i Gadeirydd Pwyllgor Gwaith y Brifwyl gan Brifysgol Morgannwg, mewn seremoni arbennig yn Nhrefforest.
Rhoddir y Gadair a’r wobr ariannol eleni gan Brifysgol Morgannwg. Dyluniwyd y Gadair a rheolwyd y prosiect gan ddau o staff Cyfadran y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol, Jeremy Spencer a Richard Randall, ac fe’i gwnaethpwyd gan Alex McDonald o Sir Benfro. Roedd Alex hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch, 2008.

Mae’r Gadair yn fodern iawn ei diwyg gyda’r Nod Cyfrin yn ganolog i’w chynllun, a thair elfen y Nod yn cael eu hadlewyrchu ym mhren y gastanwydden bêr. Ymgorfforir iaith – yn ysgrifenedig a llafar – yn ei ffurf, gyda’r sedd yn ein hatgoffa o lyfr agored a’r iaith lafar, a brig y Gadair yn debyg i gwilsyn neu ysgrifbin a’r iaith ysgrifenedig.

Meddai Richard Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2010:

“Pleser yw derbyn y Gadair ar ran Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd. Mae’n Gadair hardd, yn un arbennig o grefftus, ac yn wahanol iawn i Gadeiriau’r gorffennol. Mae’n Gadair fodern, ac mae’n Gadair sy’n adlewyrchu’r Eisteddfod eleni’n berffaith.

“Er bod y cynllunydd wedi defnyddio cysyniadau sy’n adnabyddus i Eisteddfodwyr, mae’r Gadair ei hun yn anghyffredin ac yn cyflwyno’r themau hyn mewn ffordd hollol newydd. Dyma yw’n gobaith ni gyda’r Eisteddfod eleni. Rydym yn ddiolchgar iawn i Brifysgol Morgannwg am eu haelioni, a braf yw cael cefnogaeth sefydliad blaengar fel y Brifysgol sy’n weithredol yn nalgylch yr Eistedfod eleni.”

Mae deunyddiau’r Gadair yn cyflwyno rhai o werthoedd Prifysgol Morgannwg, gyda’r pren wedi’i dyfu’n gynaladwy gan Goed Cymru o goedydd Cymreig, sy’n adleisio ymroddiad y Brifysgol i’r amgylchedd a’r economi werdd, ac mae’r ffeibr carbon yn adlewyrchu safle flaengar y Brifysgol ym myd technoleg. Cynhyrchwyd y ddau yng Nghymru.

Dywedodd Julie Lydon, Is-Ganghellor Prifysgol Morgannwg:

“Mae Prifysgol Morgannwg yn falch i fod yn cyflwyno’r Gadair eleni, ac mae’r ffaith ei bod wedi’i chynllunio gan un o’n darlithwyr yn adlewyrchu’r cyfoeth o ddoniau creadigol sydd yma’n y Brifysgol.

“Yn y flwyddyn pan ydym yn cyhoeddi ein cynllun iaith Gymraeg newydd, mae’n addas ein bod yn cefnogi’r Eisteddfod Genedlaethol ac yn dangos ein hymroddiad i’r iaith yn y fath fodd.”
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn Y Gweithfeydd, Glyn Ebwy o 31 Gorffennaf – 7 Awst. Mae’r Maes yn gyfleus ar gyfer ymwelwyr o bob rhan o Gymru, gyda chysylltiad hawdd gyda phriffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus. Yn ddeugain munud o ganol Caerdydd, mae Glyn Ebwy yn awr o daith o Abertawe, ac yn ddwy awr a chwarter o ardal Dolgellau.
Mae’r Ŵyl yn denu tua 160,000 o ymwelwyr yn flynyddol, ac fe’i chynhelir yn y gogledd a’r de bob yn ail blwyddyn. Ceir mynediad am ddim i holl weithgareddau’r Brifwyl am bris tocyn Maes dyddiol.

Mae’r Eisteddfod yn derbyn grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Yn ogystal, mae’r Eisteddfod yn derbyn arian gan awdurdodau unedol Cymru drwy bartneriaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Eleni, yn ogystal, derbyniodd yr Eisteddfod £300,000 gan Raglen Adfywio Blaenau’r Cymoedd i’n galluogi i ymweld ag ardal Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd.
15/06/2010

 

Digwyddiadau

Eisteddfod 2010

 

 

Menter Iaith
Blaenau Gwent,
Torfaen a Mynwy
2 Adeiladau Portland
Stryd Masnach
Pont-y-pŵl
Torfaen
NP4 6JS

01495 762 446
077 28 90 7772

Blaenau Gwent  Torfaen  Sir Caerdydd

Cynghorau Sir Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy

Bwrdd yr Iaith Gymraeg
-