CYFLE I DDEWIS ARLWY YNG NGHYNGERDD YR EISTEDDFOD
Clasur o Noson yw teitl cyngerdd mawreddog Nos Iau 5 Awst ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd, ac mae’n sicr o fod yn Glasur o Noson gan mai’r cyhoedd fydd yn dewis yr arlwy ar gyfer y cyngerdd.
Mae peth o’r gwaith eisoes wedi’i wneud, wrth i banel o arbenigwyr cerddorol, sy’n cynnwys yr arweinyddion, Alun Guy ac Alwyn Humphreys, roi rhestr fer eithaf hir at ei gilydd, a nawr – mae i fyny i bobl Cymru – a thu hwnt, wrth weld o le mae’r pleidleisiau wedi’n cyrraedd hyd yn hyn, i ddewis y darnau terfynol.
Mae tipyn o bopeth ar y rhestr fer, ac mae’r cyfan wedi’i rannu’n nifer o gategorїau er mwyn sicrhau ein bod yn cael trawsdoriad eang o gerddoriaeth ar y noson. Gellir dewis hyd at dri o’ch ffefrynnau ym mhob categori. Bydd angen pleidleisio cyn 30 Ebrill, ac yna bydd popeth yn cael ei gyfrif a byddwn yn cyhoeddi’r arlwy terfynol yn ystod mis Mai.
Meddai Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol:
“Mae hwn yn gyngerdd gwahanol i’r arfer, a rydym yn gobeithio y bydd y cyfle i bleidleisio i ddewis yr hyn fydd yn cael ei berfformio’n apelio at ein cynulleidfa. Yn ogystal â’r rhestr fer sydd wedi’i pharatoi gan yr arbenigwyr cerddorol, mae cyfle hefyd i chi fwrw pleidlais dros eich ffefryn chi – darn o gerddoriaeth sydd heb ei gynnwys ar y rhestr fer ond sydd, efallai, yn apelio atoch chi’n bersonol am ba bynnag reswm.
“Mae pobl eisoes wedi dechrau mynd ati i bleidleisio arlein, ac mae’r canlyniadau hyd yn hyn yn ddiddorol iawn – ac yn eithaf annisgwyl mewn rhai categorїau. Mae’n agos iawn ar hyn o bryd, ac yn amhosibl i ddarogan beth fydd yn cael ei berfformio ar y noson. Felly, os oes darn ar y rhestr fer sy’n mynd â’ch bryd – pleidleisiwch da chi, i sicrhau y byddwch chi a gweddill y gynulleidfa’n cael cyfle i’w fwynhau ar nos Iau 5 Awst.”
I bleidleisio, ewch i’r wefan – www.eisteddfod.org.uk neu gallwch anfon eich pleidlais atom – gwyb@eisteddfod.org.uk neu drwy’r post at Swyddfa’r Eisteddfod, 40 Parc Ty Glas, Llanisien, Caerdydd CF14 5DU. Ni fyddwn yn derbyn pleidleisiau dros y ffôn.
Angharad Mair fydd yn cyflwyno’r noson, gydag Alwyn Humphreys yn arwain Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC a Cherddorfa Siambr Cymru. Byddwn yn cyhoeddi enwau’r unawdwyr ar ôl dyddiad cau y bleidlais.
Mae’r rhestr fer wedi’i rhannu’n bump – opera, cerddorfaol, corawl, poblogaidd a Chymreig, a gallwch fwrw hyd at dair pleidlais ym mhob categori.
Y darnau ar restr fer y categori opera yw:
• Grand March, Aida – Verdi: Daw’r darn yma o’r opera Aida (1871) - un o operau mawr y byd, sy’n parhau yn boblogaidd heddiw.
• Libiamo: Cân Yfed, La Traviata – Verdi: Un o ddeuawdau enwocaf y byd, o’r opera La Traviata (1853)
• Finale Act 1, La Boheme – Puccini: Darn eithriadol ramantus ac angerddol o’r opera La Boheme (1896).
• Viens Mallika: Deuawd y Blodau, Lakmé – Delibes: Deuawd hyfryd o’r opera Lakmé (1883), sy’n enwog fel cerddoriaeth hysbysebion British Airways.
• Votre Toast: Cân y Toreador, Carmen – Bizet: Darn grymus a hynod adnabyddus o’r opera enwog Carmen (1875)
• Deuawd o’r Pearl Fishers –Bizet: Un arall o ddeuawdau enwocaf y byd, sy’n ein harwain at stori hynod drist y Pysgotwyr Perl (1863)
Y darnau ar restr fer y categori cerddorfaol yw:
• Nimrod, Enigma Variations – Elgar: Dyma’r gerddoriaeth a ddefnyddir yn ystod Gwasanaeth y Cofio yn Llundain bob mis Tachwedd
• Canon yn D – Pachelbel: Darn hudolus o gerddoriaeth a fu ar goll am ganrifoedd, ond sy’n ffefryn mawr erbyn heddiw
• Y Pedwar Tymor – Vivaldi: Concerto’r Haf sydd ar y rhestr fer – un o bedair concerti sy’n disgrifio’r pedwar tymor.
• Symffoni rhif 5 – Beethoven: Ai pedwar nodyn cyntaf y symffoni hon yw’r pedwar nodyn mwyaf enwog yn y byd clasurol?
• Symffoni Rhif 9 yn E leiaf, O’r Byd Newydd -Dvorak: Yn fwyaf enwog fel cerddoriaeth hysbyseb Hovis am flynyddoedd lawer!
• Finlandia – Sibelius: Mae’r gwaith yn cynnwys emyn sy’n ffefryn gyda chorau cymysg a chorau meibion ers blynyddoedd.
Mae’r darnau isod wedi’u cynnwys ar restr fer y categori corawl:
• Corws yr Haleliwia, Y Meseia – Handel: Un o fferfrynnau mawr y byd ac un o’r darnau mwyaf adnabyddus o gerddoriaeth glasurol.
• Ave Verum – Mozart: Cyfansoddodd Mozart y darn angerddol yma brin chwe mis cyn ei farwolaeth yn 1791.
• Benedictus - Karl Jenkins: Darn a berfformiwyd yn Eisteddfod Abertawe, 2006, gyda’r cyfansoddwr ei hun yn arwain.
• Sadoc Ŵr Duw –Handel: Un o gampweithiau Handel, a ddefnyddir gan gwmni P&O ac fel anthem Cynghrair Pencampwyr UEFA.
• Fortuna, Carmina Burana – Karl Orff: I un genhedlaeth dyma gerddoriaeth hysbyseb Old Spice, ond i’r to iau, dyma gerddoriaeth beirniaid yr X Factor!
• Emyn y Pasg, Cavalleria Rusticana – Mascagni: Ffefryn ymysg corau meibion a chymysg, perfformiwyd hwn am y tro cyntaf yn 1890
Dyma restr fer y categori poblogaidd:
• Medli o Ffilmiau James Bond: Cyfle i fwynhau peth o gerddoriaeth agoriadol y ffilmiau mewn trefniant cerddorol arbennig iawn.
• Pirates of the Caribbean – Badelt: Cerddoriaeth y ffilmiau antur poblogaidd a gychwynnodd yn 2003.
• Schindler’s List – John Williams: Cerddoriaeth ddirdynnol ar gyfer ffilm sy’n sicr o greu argraff ar unrhyw wyliwr.
• Star Wars – John Williams: Mae’r gerddoriaeth bron yn fwy adnabyddus na’r ffilm yma. John Williams ar ei orau!
• Hymn to the Fallen – John Williams: Daw’r gerddoriaeth yma o’r ffilm Saving Private Ryan
• Gone with the Wind – Max Steiner: Clasur o gân o glasur o ffilm. O ddyddiau ysblennydd byd y ffilm
Y darnau ar restr fer y categori Cymreig yw:
• Suo Gân: traddodiadol – trefniant George Wheldon: Un o hwiangerddi hyfrytaf Cymru. Defnyddiwyd yr alaw yn ffilm Speilberg, Empire of the Sun (1987)
• Tydi a Roddaist -Arwel Hughes: Ffefryn gyda chorau o bob math. Cyfansoddwyd yn 1936 gan ddefnyddio geiriau T Rowland Hughes.
• Hywel a Blodwen - Joseph Parry: Deuawd hyfryd o’r opera Blodwen (1878), gan gyfansoddwr sydd fwyaf adnabyddus fel cyfansoddwr fferfryn corau Cymru, Myfanwy.
• Welsh Rhapsody -Edward German Jones: Darn sy’n dangos cariad y cyfansoddwr o’r gororau at Gymru sy’n defnyddio hen alawon (1904)
• Palladio -Karl Jenkins: Un o’i weithiau mwyaf adnabyddus, yn enwedig i wrandawyr Nia ar Radio Cymru – dyma gerddoriaeth y digwyddiadur.
• Threnody - Morfydd Llwyn Owen: Darn sydd wedi’i ddarganfod yn ddiweddar, gan gyfansoddwraig ddisglair a fu farw’n ifanc iawn.
Ceir manylion am holl gyngherddau Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd ar y wefan – www.eisteddfod.org.uk. Mae’r llyfryn gwybodaeth wedi’i ddosbarthu’n eang dros y wlad, ac mae hefyd ar gael arlein. Gallwch gysylltu â ni i gofrestru er mwyn derbyn ein cylchlythyr rheolaidd – gwyb@eisteddfod.org.uk. Mae tocynnau ar werth a gellir eu prynu arlein neu drwy gysylltu â’r Linell Docynnau ar 0845 122 1176.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn Y Gweithfeydd, Glyn Ebwy o 31 Gorffennaf – 7 Awst. Mae’r Maes yn gyfleus ar gyfer ymwelwyr o bob rhan o Gymru, gyda chysylltiad hawdd gyda phriffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus. Yn ddeugain munud o ganol Caerdydd, mae Glyn Ebwy yn awr o daith o Abertawe, ac yn ddwy awr a chwarter o ardal Dolgellau.
Mae’r Ŵyl yn denu tua 160,000 o ymwelwyr yn flynyddol, ac fe’i chynhelir yn y gogledd a’r de bob yn ail blwyddyn. Ceir mynediad am ddim i holl weithgareddau’r Brifwyl am bris tocyn Maes dyddiol. Mae’r Eisteddfod wedi cyhoeddi manylion cynllun mynediad am ddim i’r Maes ar gyfer dydd Sul 1 Awst. Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae’r manylion i gyd ar gael ar wefan yr Eisteddfod neu drwy anfon ebost at gwyb@eisteddfod.org.uk. Cefnogir yr ymgyrch hyrwyddo gan fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Mae’r Eisteddfod yn derbyn grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Yn ogystal, mae’r Eisteddfod yn derbyn arian gan awdurdodau unedol Cymru drwy bartneriaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Eleni, yn ogystal, derbyniodd yr Eisteddfod £300,000 gan Raglen Adfywio Blaenau’r Cymoedd i’n galluogi i ymweld ag ardal Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd.